DCC Newyddion

System apwyntiadau canolfannau ailgylchu yma i aros

Mae'r system archebu arlein ar gyfer parciau gwastraff ac ailgylchu Cyngor Sir Dinbych wedi profi i fod yn hynod o boblogaidd gan ddefnyddwyr a staff y safle, ac maent yma i aros.

Mae angen i yrwyr ddod â'u cyfeirnod archebu a phrawf preswylio. Ni chaniateir i unrhyw un sy'n dod i fyny heb apwyntiad ar y safle. Mae'r Cyngor yn cynghori ymwelwyr â'r canolfannau ailgylchu o'r canlynol:-

•             Rhaid i bobl beidio ag ymweld â'r Ganolfan Ailgylchu os ydyn nhw, neu unrhyw un sy’n byw gyda nhw, yn hunanynysu neu'n dangos symptomau COVID-19

•             Ni chaniateir mynediad i unrhyw ôl-gerbydau echel gefell (gall faniau sy'n deillio o gar / 4x4s a threlars echel sengl fynd i mewn). Dim ond os oes ganddynt drwydded i wneud hynny y gall pobl ddod â'u gwastraff cartref mewn cerbyd gwaith. Mae'r Cyngor yn prosesu ceisiadau am hawlenni newydd fel arfer. Peidiwch ag archebu nes bod gennych drwydded ddilys.

•             Gwahanwch wastraff cyn dod i'r safle i gyflymu'r ymweliad.

•             Mae nifer y cerbydau ar y safle yn gyfyngedig a lle bo hynny'n bosibl dylai cerbydau gynnwys y gyrrwr yn unig gan mai dim ond un person fydd yn cael dadlwytho eu cerbydau. Rhaid i bobl aros yn eu car wrth giwio.

•             Rhaid i staff ac ymwelwyr gadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol bob amser.

•             Dylai gwastraff bagiau du gynnwys gwastraff na ellir ei ailgylchu yn unig. Mae'r Cyngor yn casglu bwyd, caniau, plastigau, papur, cerdyn a gwydr wrth ymyl y palmant felly dylai preswylwyr ddefnyddio'r casgliadau hyn ar gyfer y deunyddiau hyn.

•             Ni fyddwn yn derbyn gwastraff bagiau du sy'n cynnwys bwyd a deunyddiau y gellir ei ailgylchu.

Yr oriau agor ar gyfer y safleoedd yw: -

Rhuthun: Dydd Llun - Dydd Iau 10 am-6pm; Ar gau dydd Gwener; Sad a Sul 9am - 5pm

Dinbych: Llun, Maw, Mer, Gwe - 10am - 6pm; Ar gau dydd Iau; Sad a Sul 9am - 5pm

Y Rhyl: Dydd Llun - Dydd Sul 10am - 6pm

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Wastraff, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd: "Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am y gefnogaeth wych a gawsom i'r system apwyntiadau archebu. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae'r trefniadau yn y parciau ailgylchu wedi gweithredu’n llyfn iawn. Mae hynny'n ymwneud â'r trefniadau a roddwyd ar waith i sicrhau ymbellhau cymdeithasol, ond hefyd y ffordd y mae'r trigolion wedi ymgysylltu'n wirioneddol â'r broses.

"Dyna pam yr ydym wedi penderfynu parhau gyda'r system hon am gyfnod amhenodol. Mae llawer o drigolion wedi gofyn i ni gadw'r system yn ei lle, gan ei bod yn lleihau unrhyw ciwio o draffig, mae'r ymweliad â'r parciau ailgylchu yn gyflymach ac yn fwy effeithlon ac yn gyffredinol mae'n ffordd fwy diogel o weithredu'r safleoedd.

"Fel arfer byddwn yn monitro perfformiad y ffordd newydd o weithio yn y dyfodol er mwyn gwerthuso a gweithredu unrhyw addasiadau i'r broses yn ôl yr angen."

I drefnu apwyntiad, ewch i wefan y Cyngor: http://www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchu