Atgoffa preswylwyr i ymarfer corff o’u cartref yn ystod y cyfnod clo

Atgoffa preswylwyr i ymarfer corff o’u cartref yn ystod y cyfnod clo

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa preswylwyr am reoliadau Llywodraeth Cymru sy’n nodi mai dim ond o’r cartref y dylid gwneud ymarfer corff.

Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â’r rheoliadau sy’n nodi na ddylid teithio er mwyn gwneud ymarfer corff, yn unol â chyfyngiadau Lefel Rhybudd 4.

Mae’r meysydd parcio ym Mharc Gwledig Loggerheads a Moel Famau, yn ogystal â’r ffyrdd sy’n arwain i fyny at Moel Famau ar gau ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r Cyngor: “Rydym yn gofyn i bobl ddilyn y canllawiau i aros gartref yn ystod y cyfnod clo presennol, a gwneud ymarfer corff o’u cartref yn unig.

 “Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai eich ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref a dylech wneud ymarfer corff ar eich pen eich hun neu gydag aelod o’ch aelwyd neu swigen gefnogaeth.

“Rydym wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ac mae nifer o bobl sy’n ceisio ymweld â Pharc Gwledig Loggerheads a Moel Famau a safleoedd eraill wedi’u troi i ffwrdd neu eu dirwyo, ac mae’r ffyrdd i Foel Famau yn dal i fod ar gau.  

“Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd ac rydym yn deall bod pawb yn awyddus i fwynhau cefn gwlad, ond rydym yn gofyn i bobl gadw draw am gyfnod hirach er mwyn helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws a chadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi ym Mharc Gwledig Loggerheads a’r ystafelloedd te ym Mhlas Newydd ar gau ar hyn o bryd.

Mae’r Rheoliadau’n nodi ei bod yn bosibl y bydd pobl â phroblemau iechyd neu symudedd penodol angen teithio o’u cartref er mwyn gallu gwneud ymarfer corff.

Gallwch ddarllen canllawiau Llywodraeth Cymru ar wneud ymarfer corff yn ystod Lefel Rhybudd 4 yn https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4-cwestiynau-cyffredin